Ymchwiliad yn cyhoeddi ail ddyddiadau gwrandawiad rhagarweiniol

  • Cyhoeddwyd: 13 Hydref 2022
  • Pynciau: Modiwl 2

Bydd gwrandawiadau rhagarweiniol ar gyfer ail ymchwiliad yr Ymchwiliad yn dechrau ar ddydd Llun 31 Hydref ac yn cael eu cynnal dros dri diwrnod.

Bydd yn cael ei rannu’n rhannau, er mwyn canolbwyntio ar bob un o’r gwledydd datganoledig ar wahân.

Ar ddydd Llun 31 Hydref, bydd yr Ymchwiliad yn cynnal gwrandawiad rhagarweiniol ar gyfer Modiwl 2, a fydd yn archwilio penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd y DU mewn perthynas â'r pandemig Covid-19.

Dilynir hyn gan wrandawiadau ar gyfer Modiwl 2A (yn edrych ar wneud penderfyniadau yn yr Alban) a Modiwl 2B (gwneud penderfyniadau yng Nghymru) ar ddydd Mawrth 1 Tachwedd. Bydd y gwrandawiad ar gyfer Modiwl 2C (Gogledd Iwerddon) yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 2 Tachwedd.

Bydd gwrandawiadau rhagarweiniol yn cytuno ar faterion gweithdrefnol ac yn helpu'r Ymchwiliad a'r Cyfranogwyr Craidd i baratoi ar gyfer y gwrandawiadau cyhoeddus pan glywir tystiolaeth.

Yn ystod y gwrandawiadau, bydd diweddariad hefyd gan Gwnsler yr Ymchwiliad ar geisiadau Cyfranogwyr Craidd a bydd yr Ymchwiliad yn amlinellu'r cynlluniau ar gyfer y modiwlau hyn yn fanylach.

Bydd ffrwd fyw o'r gwrandawiad rhagarweiniol ar gael i'r cyhoedd ar oediad o dri munud trwy sianel YouTube, yr Ymchwiliad.Byddwn yn cyhoeddi trawsgrifiad o bob gwrandawiad ar yr un dydd y mae'n dod i ben. Bydd recordiad o'r gwrandawiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Ymchwiliad ar ddyddiad diweddarach.

Mae'r gwrandawiad rhagarweiniol yn agored i'r cyhoedd a bydd yn cael ei gynnal yn 13 Bishop’s Bridge Road, Llundain, W2 6BU. Bydd lleoedd ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.

Mae'r Ymchwiliad yn gofyn i bawb sy'n mynychu'r gwrandawiad ddilyn ein polisi Covid. Ni ddylai unrhyw un sy’n ystyried dod i wrandawiad wneud hynny os oes unrhyw risg bod ganddynt y coronafeirws, neu os ydynt yn teimlo’n sâl ac nad ydynt yn sicr pam. Bydd yr Ymchwiliad yn dechrau clywed tystiolaeth ar gyfer Modiwl 2 yn Haf 2023. Bydd yr Ymchwiliad yn clywed tystiolaeth ar gyfer Modiwlau 2A, B ac C yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn Hydref y flwyddyn nesaf. Bydd rhagor o wybodaeth am hyn yn cael ei chyhoeddi maes o law.