Mae'r Ymchwiliad yn cyhoeddi dyddiadau cyhoeddi adroddiadau'r hydref ar gyfer 'Sector Gofal' (Modiwl 6) a 'Phrofi, Olrhain ac Ynysu' (Modiwl 7)

  • Cyhoeddwyd: 17 Awst 2026
  • Pynciau: Modiwl 6, Modiwl 7

Bydd Ymchwiliad Covid-19 y DU yn cyhoeddi ei chweched adroddiad, 'Sector Gofal' (Modiwl 6), ar ddydd Mawrth 20 Hydref 2026 a'i seithfed adroddiad, 'Profi, Olrhain ac Ynysu' (Modiwl 7), ar ddydd Iau 19 Tachwedd 2026.

Bydd y ddau adroddiad yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr ymchwiliad am 12pm ar eu dyddiadau cyhoeddi priodol. Bydd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes Heather Hallett, yn cyhoeddi ei chanfyddiadau ac argymhellion mewn datganiadau fideo ar sianel YouTube yr Ymchwiliad yn syth ar ôl bob cyhoeddiad.

Digwyddodd gwrandawiadau cyhoeddus Modiwl 6 o 30 Mehefin i 31 Gorffennaf 2025.

Rhoddodd cyfanswm o 57 o dystion dystiolaeth ar lafar yn ystod gwrandawiadau cyhoeddus Modiwl 6. Ymchwiliodd Modiwl 6 i effaith y pandemig ar y sector gofal cymdeithasol i oedolion a gyllidir yn gyhoeddus ac yn breifat yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Bydd yr adroddiad yn ystyried canlyniadau penderfyniadau'r llywodraeth - gan gynnwys cyfyngiadau a osodwyd - ar y rheini sy'n byw ac yn gweithio o fewn y sector gofal, yn ogystal â phenderfyniadau ynghylch capasiti mewn ysbytai a phreswylwyr mewn gofal i oedolion a chartrefi preswyl. Bydd hefyd yn mynd i'r afael â'r camau a gymerir mewn gofal i oedolion a chartrefi preswyl i atal lledaeniad Covid-19 a bydd yn archwilio capasiti'r sector gofal i oedolion i ymateb i'r pandemig. Ochr yn ochr â hyn, bydd yr adroddiad yn ystyried effaith dynol y pandemig ar breswylwyr a'u teuluoedd, gan gynnwys marwolaethau mewn lleoliadau gofal, y defnydd o benderfyniadau Peidiwch â Dechrau Adfywio Cardiopwlmonaidd (DNACPR) a'r cyfyngiadau a osodwyd ar ymweliadau gan anwyliaid.

Rhedodd gwrandawiadau cyhoeddus Modiwl 7 o ddydd Llun 12 Mai i ddydd Gwener 30 Mai 2025. 

Rhoddodd cyfanswm o 39 o dystion dystiolaeth lafar yn ystod gwrandawiadau cyhoeddus Modiwl 7 wrth iddo ymchwilio i ymagwedd y DU at brofi, olrhain ac ynysu yn ystod y pandemig.  

Bydd yr adroddiad yn archwilio polisïau a strategaethau a ddatblygwyd ac a ddefnyddiwyd i gynorthwyo'r systemau profi, olrhain ac ynysu gan Lywodraeth y DU a'r Gweinyddiaethau Datganoledig. Mae'r rhain yn cynnwys y penderfyniadau a wnaed gan gyrff allweddol, opsiynau a thechnolegau eraill oedd ar gael ar gyfer profi ac olrhain cysylltiadau a ffactorau a all fod wedi dylanwadu ar gydymffurfio cyhoeddus â mesurau hunanynysu.

Bydd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes Heather Hallett, yn amlinellu ei chanfyddiadau a'i hargymhellion yn y ddau adroddiad. Mae cyhoeddi'r adroddiadau hyn yn nodi cynnydd cyflym ar gyfer yr Ymchwiliad. Mae'r holl wrandawiadau cyhoeddus wedi dod i ben a bydd saith o'n 10 adroddiad arfaethedig wedi'u cyhoeddi erbyn canol Tachwedd. Bydd yr holl adroddiadau sy'n weddill yn cael eu cyhoeddi yn hanner cyntaf y flwyddyn nesaf. 

Mae'r Cadeirydd yn disgwyl i'r holl argymhellion gael eu gweithredu heb oedi a gofynnir i'r pedair llywodraeth ar draws y pedair cenedl gyhoeddi eu hymateb o fewn chwe mis o gyhoeddi. 

Mae gweithredu argymhellion y Cadeirydd yn gyflym yn hanfodol i sicrhau bod y DU wedi'i pharatoi yn well ar gyfer y pandemig nesaf.

Ysgrifennydd yr Ymchwiliad, Ben Connah

Mae rhagor o fanylion yn cael eu cynnwys yn y cwmpasau dros dro ar gyfer Modiwl 6 a Modiwl 7. Gellir canfod y rhestr o Gyfranogwyr Craidd ar gyfer pob modiwl ar wefan yr Ymchwiliad yma (Modiwl 6) a yma (Modiwl 7).

Mae'r Ymchwiliad yn barod wedi cyhoeddi adroddiadau ar gyfer Modiwlau 1 i 5 - mae'r holl adroddiadau ar-lein

Mae'r Farwnes Hallett yn nodi'r camau a gymerwyd hyd yma gan bedair llywodraeth y DU ac yn disgwyl i'r holl argymhellion o bob adroddiad a gyhoeddwyd yn cael eu gweithredu'n fuan ac yn llawn. Gellir olrhain cynnydd ar weithredu argymhellion ar dudalen Monitro Argymhellion yr Ymchwiliad ar wefan yr Ymchwiliad.

Bydd y tri adroddiad sy'n weddill, Modiwl 8 'Plant a Phobl Ifanc', Modiwl 9 'Ymateb Economaidd' a Modiwl 10 'Effaith ar Gymdeithas' yn cael eu cyhoeddi yn hanner cyntaf 2027. Bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cyhoeddi yn dilyn dadansoddi trylwyr o'r dystiolaeth a gafwyd gan yr Ymchwiliad ar gyfer pob archwiliad.

Gellir canfod rhestr lawn o archwiliadau'r Ymchwiliad yn y Cylch Gorchwyl.

ModiwlAgorwyd arYn Ymchwilio iDyddiadau GwrandawiadauDyddiad Adroddiad
612 Rhagfyr 2023Y sector gofalLlun 30 Mehefin - Iau 31 Gorffennaf 202520 Hydref 2026
719 Mawrth 2024Profi, Olrhain ac YnysuLlun 12 Mai - Gwener 30 Mai 202519 Tachwedd 2026
821 Mai 2024Plant a Phobl IfancLlun 29 Medi - Iau 23 Hydref 20252027
99 Gorffennaf 2024Ymateb economaiddLlun 24 Tachwedd - Iau 18 Rhagfyr 20252027
1017 Medi 2024Effaith ar gymdeithasLlun 16 Chwefror 2026 - Iau 5 Mawrth 20262027