Agorodd Modiwl 6 ar 12 Rhagfyr 2023. Bydd y modiwl hwn yn ymchwilio i effaith y pandemig ar y sector gofal cymdeithasol i oedolion a ariennir yn gyhoeddus ac yn breifat yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd yn ystyried canlyniadau penderfyniadau’r llywodraeth – gan gynnwys cyfyngiadau a osodir – ar y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn y sector gofal, yn ogystal â phenderfyniadau ynghylch capasiti mewn ysbytai a phreswylwyr mewn cartrefi gofal a phreswyl i oedolion.

Bydd hefyd yn mynd i’r afael â’r camau a gymerwyd mewn cartrefi gofal i oedolion a chartrefi preswyl i atal lledaeniad Covid-19 ac yn archwilio gallu’r sector gofal oedolion i ymateb i’r pandemig.