Datganiad agoriadol y Farwnes Hallett

Cefais fy mhenodi’n Gadeirydd Ymchwiliad cyhoeddus Covid-19 y DU ym mis Rhagfyr 2021. Gosododd y Prif Weinidog y cylch gorchwyl ar 28 Mehefin 2022 yn dilyn ymgynghori â’r cyhoedd a chyda llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Rwy’n gwneud y datganiad hwn heddiw i agor yr Ymchwiliad ac i nodi fy null o’i redeg.

Effeithiodd pandemig Covid 19 arnom ni i gyd. Rhai yn llawer mwy nag eraill. Collodd pobl anwyliaid ac ni allent alaru'n iawn.

Collodd plant a phobl ifanc gyfleoedd addysgol. Methodd busnesau. Dioddefodd iechyd corfforol a meddyliol. Teimlai pobl yn ynysig. Er bod bywyd o'r diwedd yn dechrau dychwelyd i normal, mae'r pandemig yn dal gyda ni ac mae llawer yn dal i ddioddef. Mae'r rhai sydd wedi dioddef fwyaf eisiau gwybod a ellid bod wedi gwneud unrhyw beth i atal neu leihau eu dioddefaint a dyna pam y sefydlwyd yr Ymchwiliad hwn.

Pan oeddwn i'n Farnwr, roeddwn i'n delio â ffeithiau a thystiolaeth. Felly gadewch i mi ddechrau gyda'r ffeithiau am y pandemig fel rydyn ni eisoes yn eu hadnabod.

Ar 31 Rhagfyr 2019, hysbyswyd Sefydliad Iechyd y Byd am glwstwr o achosion o niwmonia o achos anhysbys a ganfuwyd yn Ninas Wuhan, Talaith Hubei, Tsieina. Nodwyd coronafeirws newydd wedi hynny o samplau cleifion. Lledaenodd haint â'r coronafeirws yn gyflym ac erbyn 11 Mawrth 2020, roedd Sefydliad Iechyd y Byd wedi nodweddu Covid-19 fel pandemig. Cafodd dau glaf cyntaf y DU ddiagnosis o'r coronafeirws yn Efrog ar 30 Ionawr 2020. Yn Ewrop, gwelodd Mawrth 2020 gynnydd dramatig mewn salwch a marwolaethau o'r firws. Mewn gwledydd fel yr Eidal, cyflwynwyd mesurau llym yn cyfyngu ar symud pobl.

Ar 11 Mawrth 2020, mewn cysylltiad â chyllideb flynyddol y flwyddyn honno, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys ar y pryd becyn cymorth brys gwerth £12 biliwn i helpu'r DU i ymdopi ag effaith ddisgwyliedig y feirws. Bum niwrnod yn ddiweddarach, anogodd y Prif Weinidog bawb yn y DU i weithio o gartref, i roi'r gorau i gysylltiad diangen ag eraill, osgoi tafarndai a bwytai ac i roi amser i'r DU ymdopi â'r pandemig. Ar 17 Mawrth, cyhoeddodd y Canghellor £330 biliwn o fenthyciadau a gefnogir gan y llywodraeth a £20 biliwn mewn toriadau treth a grantiau i gwmnïau sydd dan fygythiad o fethu. Ar 18 Mawrth, cyhoeddodd y llywodraeth gau ysgolion o ddiwedd yr wythnos honno. Ar 20 Mawrth, cyhoeddodd y Canghellor y byddai'r llywodraeth yn talu hyd at 80% o gyflogau staff sydd mewn perygl o gael eu diswyddo.

Ar 23 Mawrth, cyhoeddodd y Prif Weinidog gyfyngiadau llym ar fywydau beunyddiol pawb yn y DU, yn yr hyn a ddaeth i gael ei adnabod fel y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf. Dim ond i brynu bwyd, i ymarfer corff, i ddiwallu angen meddygol neu i ddarparu gofal i berson agored i niwed, neu i fynd i'r gwaith os nad oedd gweithio o gartref yn bosibl, y caniatawyd i bobl adael eu cartrefi. Daeth caffael a chanfod a chyflenwi offer amddiffynnol personol (PPE) yn faterion o bryder cenedlaethol.

Yn ystod y misoedd dilynol gwelwyd nifer sylweddol o farwolaethau (gyda’r ystadegau swyddogol yn nodi bod mwy na 180,000 o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 wedi’u cofrestru ers 9 Mawrth 2020)1), busnesau ac ysgolion ar gau, cyflwyno gweithio gartref ac addysg gartref i'r rhai a allai, y wlad yn benthyca symiau enfawr o arian i ddarparu cefnogaeth, digwyddiadau wedi'u canslo neu eu gohirio a chyfyngiadau llym ar fynychu angladdau a gwasanaethau crefyddol. Roedd y cyfyngiadau a osodwyd ar bob agwedd ar fywyd y DU yn ddigynsail yn ystod amser heddwch.

Llaciowyd y mesurau clo ac ail-osodwyd rhai cyfyngiadau drwy gydol y flwyddyn ac i mewn i'r flwyddyn ganlynol gan gynnwys dau gyfnod clo pellach ym mis Hydref 2020 ac Ionawr 2021. Ym mis Rhagfyr 2020, rhoddwyd y brechlyn Covid-19 cyntaf a dilynodd rhaglen frechu torfol dros fisoedd a blynyddoedd. Erbyn Gwanwyn 2022, dechreuwyd llacio cyfyngiadau ar fywyd cenedlaethol ledled pedair gwlad y DU. Wrth gwrs, rydym yn gobeithio, ond ni allwn fod yn sicr, bod effeithiau gwaethaf pandemig Covid-19 y tu ôl i ni ac nad yw pandemig arall o amgylch y gornel.

Yn erbyn y cefndir hwn y crëwyd yr Ymchwiliad hwn.

Fy swydd i a thasg yr Ymchwiliad hwn yw ystyried ac adrodd ar y paratoadau a'r ymateb i'r pandemig yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r Cylch Gorchwyl – a osodwyd gan y Prif Weinidog y mis diwethaf – yn darparu amlinelliad bras o'r materion y bydd yr Ymchwiliad yn ymchwilio iddynt. Maent yn helaeth, fel y mae'n addas ar gyfer ymchwiliad i ddigwyddiad o'r maint hwn.

Felly, mae hon yn dasg sylweddol, a fydd, os yw am gael ei gwneud yn iawn, yn cymryd amser ac yn costio llawer. Nid fy mhenderfyniad i oedd sefydlu'r Ymchwiliad, ond mae gen i gyfrifoldeb am ei gynnal. Rwy'n benderfynol o gynnal yr Ymchwiliad mor drylwyr ac effeithlon â phosibl, gan gofio cylch gorchwyl eang yr Ymchwiliad a'r angen i'r broses ymchwilio fod yn drylwyr ac yn deg. Gyda chwmpas mor eang, mae angen i mi fod yn ddidostur. Byddai'n amhosibl galw pob tyst sy'n ymwneud â phob digwyddiad, mater neu benderfyniad mawr, felly mae'n rhaid i'r Ymchwiliad ganolbwyntio ar y materion allweddol.

Un pwrpas i'r Ymchwiliad hwn yw darparu hanes ffeithiol o'r hyn a ddigwyddodd ledled y DU. Un arall yw dysgu gwersi i lywio paratoadau ar gyfer pandemigau yn y dyfodol yn y DU. Rwy'n benderfynol o ymgymryd â gwaith yr Ymchwiliad hwn a'i gwblhau cyn gynted â phosibl fel bod gwersi'n cael eu dysgu cyn i bandemig arall daro.

Ymchwiliad statudol yw hwn, a sefydlwyd o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddo ddigwydd yn gyhoeddus, yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau a osodir i amddiffyn rhag y risg o niwed a difrod i fuddiant y cyhoedd. Byddaf yn cynnal yr Ymchwiliad yn ddiduedd ac yn agored yn unol â'm rhwymedigaeth statudol i wneud hynny. Byddaf yn sicrhau bod y rhai sydd fwyaf cysylltiedig â'i waith a'r cyhoedd yn ehangach yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am ei gynnydd.

Mae gen i'r pŵer i gasglu tystiolaeth o bob cwr o bedair gwlad y DU ac i orfodi cynhyrchu dogfennau ac ymddangosiad tystion. Byddaf yn trin pob deiliad tystiolaeth a thystion yn deg, fel sy'n ofynnol i mi ei wneud, ond yn yr un modd ni fyddaf yn petruso i wneud fy marn yn glir am unrhyw berson neu sefydliad sy'n sefyll yn ffordd yr Ymchwiliad rhag cyflawni ei dasg.

Mae hefyd yn bwysig egluro pa bwerau nad oes gennyf. Fy rôl i yw canfod y ffeithiau, canfod beth aeth o'i le (a beth aeth yn dda), a gwneud argymhellion ar yr hyn y mae'n rhaid i'r DU ei ddysgu o'r pandemig. Nid oes gennyf y pŵer i erlyn na chael achos cyfreithiol yn erbyn unrhyw un, heb sôn am ddirwyo neu garcharu pobl o ganlyniad i'w gweithredoedd neu eu hepgoriadau mewn perthynas â'r pandemig.

Hoffwn droi nawr at ffynonellau gwybodaeth eraill a fydd yn hanfodol i'r ymchwiliad hwn; gwrando ar bobl am eu profiadau, defnyddio ymchwil a siarad ag arbenigwyr i gasglu cymaint o safbwyntiau â phosibl.

Mae'r Cylch Gorchwyl yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ymchwiliad wrando ar brofiadau teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid ac eraill sydd wedi dioddef caledi neu golled o ganlyniad i'r pandemig, ac ystyried y profiadau hynny'n ofalus. Mae hon yn dasg arwyddocaol a phwysig. Bydd yr Ymchwiliad yn gwneud hyn mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys drwy 'ymarfer gwrando' a fydd yn dechrau yn ddiweddarach eleni.

Bydd yr ymarfer gwrando hwn o werth enfawr i'r Ymchwiliad drwy gasglu profiadau o'r pandemig o bob cwr o'r DU, gan gynnwys gan y rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf a chan y rhai nad yw eu lleisiau bob amser yn cael eu clywed. Bydd yn rhoi cyfle i bobl ddweud wrth yr Ymchwiliad am eu profiad heb ffurfioldeb rhoi tystiolaeth na mynychu gwrandawiad cyhoeddus, fel bod pawb yn teimlo eu bod yn gallu cyfrannu at yr Ymchwiliad, os ydynt yn dymuno, a chael eu clywed. Mae fy nhîm wedi dechrau gweithio ar sut y gallant wneud hyn mor hawdd â phosibl, er enghraifft ar-lein yn ogystal â thrwy sgyrsiau ledled y DU.

Bydd profiadau a rennir gyda'r Ymchwiliad yn cael eu dadansoddi a bydd adroddiadau'n cael eu cynhyrchu sy'n tynnu sylw at y themâu sy'n dod i'r amlwg. Ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar yr hyn y gall pobl ei ddweud wrth yr Ymchwiliad, er na ellir ymchwilio i'w hadroddiadau unigol. Yn y modd hwn, dylem ddysgu llawer mwy am effaith y pandemig ar y rhai sydd wedi colli eu bywydau, ar staff a gofalwyr iechyd a gofal cymdeithasol, ar fusnesau, gweithwyr, gyrfaoedd a bywoliaeth, ar y system cyfiawnder troseddol, ar blant, ar gyflawniad academaidd ac ar wahanol gymunedau ar draws y pedair gwlad.

Bydd yr Ymchwiliad hefyd yn adolygu ymchwil sy'n bodoli eisoes am y pandemig o bob cwr o'r byd lle bydd hyn yn helpu i ddeall parodrwydd ac ymateb y DU i'r pandemig a chomisiynu ei ymchwil ei hun i feysydd lle mae angen dadansoddiad academaidd newydd. Bydd ymchwil a ystyrir gan yr Ymchwiliad yn cael ei datgelu yn ei drafodion lle bo'n briodol a'i chyhoeddi ar wefan yr Ymchwiliad.

Byddaf yn penodi grwpiau o arbenigwyr gwyddonol ac arbenigwyr eraill i gynorthwyo'r Ymchwiliad yn ei waith, gan gwmpasu ystod o wahanol bynciau a safbwyntiau. Bydd hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod yr Ymchwiliad yn elwa o'r arbenigedd sydd ar gael ac yn deall yr ystod o safbwyntiau ar agweddau gwyddonol ac economaidd allweddol y pandemig. Ymarfer canfod ffeithiau annibynnol yw'r Ymchwiliad. Ni fydd yn gwneud unrhyw dybiaethau, ond bydd yn cael ei arwain gan y dystiolaeth. Bydd y grwpiau arbenigol yn cael y dasg o greu adroddiadau ar y cyd, y gellir eu defnyddio mewn tystiolaeth, gan nodi lle maent yn cytuno ac yn anghytuno ynghylch pynciau y cânt eu cyfarwyddo i gynorthwyo arnynt. Bydd yn rhaid i mi, fel Cadeirydd yr Ymchwiliad, benderfynu faint o bwysau i'w roi iddynt.

Mae'r timau sy'n arwain ein gwaith ymchwiliol eisoes wedi nodi nifer o bynciau y byddwn yn comisiynu ymchwil arnynt ac yn ceisio cyngor arbenigol. Byddaf yn darparu mwy o fanylion am ein dull arfaethedig o ymchwilio a chyngor arbenigol drwy gydol yr Ymchwiliad. Byddwn yn casglu'r profiadau, yr adroddiadau, y data a'r ymchwil hyn i lywio gwaith ymchwiliol yr Ymchwiliad a pharatoi ar gyfer gwrandawiadau cyhoeddus.

Fel y soniais yn gynharach, mae Cylch Gorchwyl yr Ymchwiliad yn eang ei gwmpas ac yn heriol. Rydym wedi rhoi ystyriaeth sylweddol i'r ffordd orau o gasglu a chraffu ar y dystiolaeth a gall yr Ymchwiliad ddod i gasgliadau cadarn a theg yn y pen draw.

Er mwyn mynd i'r afael â'r gwahanol agweddau niferus ar y pandemig sydd wedi'u cynnwys yn y Cylch Gorchwyl, rwyf wedi penderfynu eu grwpio'n fodiwlau. Bydd gen i dimau, wedi'u lleoli ledled y DU, i ymchwilio i bob un. Byddant yn cael ac yn dadansoddi tystiolaeth, gan sicrhau bod cyfranogwyr craidd yr Ymchwiliad yn cael dogfennau ac yn gallu paratoi ar gyfer y gwrandawiadau cyhoeddus. Byddant yn gweithio'n fras ochr yn ochr. Yna byddaf yn cynnal y gwrandawiadau cyhoeddus ar gyfer pob modiwl, un ar ôl y llall.

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn dymuno penodi dau aelod panel ychwanegol i'm cynorthwyo i glywed y dystiolaeth a gwneud canfyddiadau ac argymhellion. Fodd bynnag, nid wyf am ohirio'r gwaith nes iddynt gael eu penodi, felly rwyf wedi cyfarwyddo'r Tîm Ymchwilio i symud ymlaen â pharatoi'r modiwlau.

Cyhoeddir a hagorir modiwlau yn olynol, gyda'r rhai sy'n dymuno cymryd rhan ffurfiol yn yr Ymchwiliad yn cael eu gwahodd i wneud cais i ddod yn 'gyfranogwyr craidd' ar gyfer pob modiwl, yn hytrach na thrwy gydol yr Ymchwiliad cyfan. Er fy mod yn cydnabod y gall rhai unigolion, grwpiau a sefydliadau wneud cais a dod yn gyfranogwyr craidd mewn mwy nag un modiwl, bydd rhannu gwaith yr Ymchwiliad a'u dynodi fel hyn yn caniatáu imi sicrhau bod pob modiwl mor hylaw â phosibl ac yn cael ei gynnal mor effeithlon â phosibl. Rwy'n gwahodd ymgeiswyr i grwpio eu hunain ynghyd ag eraill sydd â diddordeb tebyg, lle bynnag y bo modd, i helpu i reoli'r nifer fawr o bobl a sefydliadau a allai fod yn ceisio statws cyfranogwr craidd.

Byddaf yn agor y tri modiwl cyntaf ac yn cynnal gwrandawiadau rhagarweiniol eleni, gyda gwrandawiadau cyhoeddus sylweddol yn dechrau ddiwedd Gwanwyn 2023.

Bydd Modiwl 1 yn agor heddiw. Bydd yn ystyried i ba raddau y nodwyd a chynlluniwyd yn briodol ar gyfer risg pandemig y Coronafeirws ac a oedd y DU yn barod ar gyfer y posibilrwydd hwnnw. Bydd y modiwl yn edrych ar barodrwydd y DU ar gyfer argyfyngau sifil system gyfan, gan gynnwys adnoddau, y system rheoli risg a pharodrwydd ar gyfer pandemig. Bydd yn craffu ar benderfyniadau'r llywodraeth ynghylch cynllunio ac yn ceisio nodi gwersi o ddigwyddiadau ac efelychiadau cynharach a chymariaethau rhyngwladol.

Rwy'n bwriadu cynnal y gwrandawiad rhagarweiniol cyntaf yn y modiwl hwn ym mis Medi a bydd y gwrandawiadau cyhoeddus llawn ar gyfer Modiwl 1 yn dechrau yn y Gwanwyn y flwyddyn nesaf. Hefyd yn dechrau heddiw mae'r broses ymgeisio ar gyfer y rhai sydd am gael eu hystyried yn Gyfranogwyr Craidd i Fodiwl 1. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 16 Awst.

Bydd Modiwl 2 wedi'i rannu'n rhannau. Bydd y rhan gyntaf yn edrych ar lywodraethu a gwneud penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd ar gyfer y DU. Bydd yn ymdrin ag ymateb cychwynnol y DU i bandemig Covid-19 ac yn mynd i'r afael â gwneud penderfyniadau'r Llywodraeth ganolog, gan gynnwys perfformiad gwleidyddol a gwasanaeth sifil ac effeithiolrwydd y berthnasoedd â llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, awdurdodau lleol a'r sectorau gwirfoddol/cymunedol. Bydd yn edrych ar y gwneud penderfyniadau ar gyfer ymyriadau anfferyllol (hynny yw, y cyfyngiadau symud a'r holl gyfyngiadau a gofynion eraill), yn ogystal â defnyddio arbenigedd gwyddonol, casglu a modelu data, cyfathrebu llywodraeth ac iechyd y cyhoedd, gan gynnwys gwyddor ymddygiad, negeseuon a chynnal hyder a goruchwyliaeth Seneddol a rheolaeth reoleiddiol.

Ar ôl ystyried y darlun o safbwynt y DU gyfan (a hefyd o safbwynt Lloegr) ym Modiwl 2, bydd Modiwlau 2A, 2B a 2C yn mynd i'r afael â'r un materion cyffredinol a strategol o safbwynt yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Bydd Modiwlau 2A, 2B a 2C yn digwydd yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn y drefn honno.

Er bod Ymchwiliad wedi'i sefydlu yn yr Alban o dan yr Arglwyddes Poole i edrych ar faterion sydd wedi'u datganoli i'w llywodraeth (ac mae'n dal yn bosibl y bydd ymchwiliadau'n cael eu sefydlu yng Nghymru a Gogledd Iwerddon), mae cylch gwaith fy Ymchwiliad yn cwmpasu'r DU gyfan. O ystyried telerau Deddf Ymchwiliadau 2005 a'm Cylch Gorchwyl, mae'n anochel y bydd yn rhaid i mi ystyried materion sydd wedi'u cadw'n ôl ac wedi'u datganoli lle maent yn gorgyffwrdd. Fodd bynnag, pan fydd yr Ymchwiliad yn dychwelyd at bob un o'r gwledydd datganoledig mewn modiwlau diweddarach i fynd i'r afael â'r materion hynny nad ydynt wedi'u cynnwys ym Modiwlau 2A, 2B a 2C, fy mwriad, mewn perthynas â materion yr Alban, yw gadael cymaint o faterion datganoledig â phosibl i'r Ymchwiliad Albanaidd.

Wrth fabwysiadu’r dull hwn, fy mhrif ystyriaeth yw bod yn glir i bobl ledled y DU pa Ymchwiliad sy’n gyfrifol am edrych ar faterion penodol. Rhaid i mi hefyd fod yn ystyriol o’r sefydliadau a’r unigolion hynny a fydd yn cael eu galw i roi tystiolaeth, a rhoi hyder iddynt na fydd galwadau dro ar ôl tro am yr un deunydd gan wahanol Ymchwiliadau. Pan fydd fy Ymchwiliad yn ymchwilio i faterion sy’n ymwneud yn benodol â’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, byddaf yn ceisio lleihau dyblygu ymchwiliadau, casglu tystiolaeth ac adrodd gydag unrhyw ymchwiliadau a sefydlir gan y llywodraethau yn y gwledydd hynny.

Bydd canolfan yr Ymchwiliad ar gyfer gwrandawiadau cyhoeddus yn Llundain, ond bydd hefyd yn treulio amser yn clywed tystiolaeth am ymateb ac effaith y pandemig ym mhob un o'r pedair gwlad sy'n ffurfio'r DU.

Bydd yr Ymchwiliad yn agor Modiwl 2 ddiwedd mis Awst eleni, yn cynnal y gwrandawiadau rhagarweiniol cyntaf yn yr hydref, a bydd y gwrandawiadau cyhoeddus ar gyfer y modiwl hwn yn dechrau yn Haf 2023 yn Llundain. Cynhelir Modiwlau 2A, 2B a 2C wedi hynny.

Bydd Modiwl 3 yn archwilio effaith Covid, ac ymatebion y llywodraeth a chymdeithas iddo, ar systemau gofal iechyd yn gyffredinol ac ar gleifion, ysbytai a gweithwyr gofal iechyd eraill a staff. Ymhlith materion eraill, bydd yn ymchwilio i systemau a llywodraethu gofal iechyd, ysbytai, gofal sylfaenol (gan gynnwys meddygon teulu a deintyddion), yr effaith ar ôl-groniadau'r GIG a thriniaeth nad yw'n Covid, effeithiau rhaglenni brechu ar ddarpariaeth gofal iechyd a diagnosis a chymorth LongCovid.

Dyma'r modiwlau cyntaf yn unig y bydd yr Ymchwiliad yn ymchwilio iddynt a bydd yr Ymchwiliad yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am y modiwlau diweddarach yn y misoedd nesaf. Yn fras iawn, mae'n debygol y bydd y rhain yn cwmpasu materion 'system' ac 'effaith' ledled y DU, gan gynnwys: brechlynnau, therapïau a thriniaeth gwrthfeirysol ledled y DU, y sector gofal, caffael a chyfarpar diogelu personol y Llywodraeth, profi ac olrhain, ymatebion busnes ac ariannol y Llywodraeth ledled y DU ac effaith ar sectorau busnes, anghydraddoldebau iechyd ac effaith Covid-19, addysg a phlant a phobl ifanc ac effaith Covid-19 ar wasanaethau cyhoeddus ac ar sectorau cyhoeddus eraill.

Rwy'n ailadrodd fy addewid o'r Cylch Gorchwyl, wrth ymchwilio i'r holl faterion hyn, y bydd anghydraddoldebau yn flaenllaw yn ymchwiliadau'r Ymchwiliad.

Rwy'n gwybod y bydd llawer o bobl yn pendroni pa mor hir y bydd yn rhaid iddynt aros i glywed am fy nghasgliadau a'm hargymhellion. Drwy gynnal yr Ymchwiliad trwy fodiwlau, byddaf yn gallu cynhyrchu adroddiadau rheolaidd. Rwy'n bwriadu sicrhau bod yr adroddiadau'n canolbwyntio ar ddadansoddiadau, canfyddiadau ac argymhellion allweddol ac wedi'u hysgrifennu mewn iaith glir fel eu bod yn hawdd i unrhyw un sy'n dymuno eu darllen eu deall. Pan fyddaf yn gwneud argymhellion i bobl neu sefydliadau, rwy'n disgwyl iddynt eu hystyried ac ymateb iddynt yn gyflym, er mwyn sicrhau bod y DU mor barod ag y gall fod i ymateb i'r pandemig nesaf ac i amddiffyn bywydau ei phobl. Bydd yr Ymchwiliad yn monitro gweithrediad yr argymhellion y mae'n eu gwneud yn ystod ei oes.

Rwyf am orffen lle dechreuais, sef nodi pwysigrwydd yr ymchwiliad hwn i'r rhai a ddioddefodd fwyaf. Yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus yn gynharach eleni, pan gyfarfûm â theuluoedd a oedd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig, cefais fy nharo gan natur ddinistriol eu colled, a waethygwyd gan effaith y cyfyngiadau a oedd ar waith ar y pryd ar eu gallu i alaru. Rwy'n gwybod bod eraill wedi dioddef colled sylweddol hefyd o ganlyniad i'r pandemig ac mae bywyd pob person wedi newid i ryw raddau. O'm rhan i, byddaf yn gwneud fy ngorau glas i gynnal yr Ymchwiliad mewn ffordd sy'n cydnabod y dioddefaint hwn ac yn ceisio lleihau'r posibilrwydd y bydd eraill yn dioddef yn yr un ffordd yn y dyfodol.

O ystyried ehangder fy ymchwiliadau, ni fydd hyn yn cael ei gwblhau mor gyflym ag y byddai rhai yn ei hoffi. Nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Rwy'n benderfynol o sicrhau bod gan yr Ymchwiliad fynediad at y dystiolaeth sydd ei hangen arno a bod ganddo'r amser i ddadansoddi'r dystiolaeth honno'n iawn cyn i dystion ymddangos o'm blaen. Byddaf yn ceisio sicrhau bod trefn y modiwlau'n gwneud synnwyr ac yn creu darlun o'r pandemig; ni fydd pawb yn cytuno â'r drefn honno ond bydd yn caniatáu imi edrych yn ddigon manwl ar bob mater yr wyf yn credu sydd angen ei graffu.

Yr Ymchwiliad hwn yw ein cyfle i fyfyrio ar bopeth a ddigwyddodd yn ystod y pandemig yn y DU – yr hyn y gellir ei wella a'r hyn a wnaed yn dda – fel ein bod mewn gwell sefyllfa i ymdopi ag unrhyw bandemigau yn y dyfodol.

Mae hefyd yn gyfle i ddarparu cofnod hirhoedlog o effaith ddinistriol y pandemig ar bobl ledled y DU.

Yn olaf, byddaf fi a thîm yr Ymchwiliad yn ceisio dod o hyd i ffordd o goffáu'r rhai yr ydym wedi'u colli yn y ffordd fwyaf parchus a phriodol bosibl.

 

Y Farwnes Heather Hallett

Cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU