Diweddariad: Ymchwiliad yn cyhoeddi manylion ychwanegol am ei wrandawiad rhagarweiniol cyntaf ar gyfer ymchwiliad gofal iechyd
Bydd yr Ymchwiliad yn cynnal ei wrandawiad rhagarweiniol cyntaf ar gyfer ei drydydd ymchwiliad (Modwl 3), gan edrych ar effaith y pandemig ar ofal iechyd, ddydd Mawrth 28 Chwefror 10:00.
Mae'r Ymchwiliad wedi cyhoeddi heddiw ei agenda ar gyfer y gwrandawiad:
- Sylwadau rhagarweiniol o'r Gadair
- Diweddariad gan y Cwnsler i'r Ymchwiliad, gan gynnwys:
- Dynodi Cyfranogwyr Craidd
- Amlinelliad Dros Dro ar gyfer Modwl 3
- Casglu tystiolaeth
- Datgeliad i Gyfranogwyr Craidd
- Yr ymarfer gwrando/Mae Pob Stori'n Cyfrif
- Dyddiadau gwrandawiadau yn y dyfodol
- Cyflwyniadau gan Gyfranogwyr Craidd
Bydd y gwrandawiad ar gael i'w wylio ar sianel YouTube yr Ymchwiliad, yn amodol ar dair munud o oedi.
This hearing will take place in person at Leonardo Royal London, 10 Godliman Street, St Paul’s, London, EC4V 5AJ. Places inside the hearing centre will be available on a first come, first served basis.
Mae'r Ymchwiliad yn gofyn i bawb sy'n mynychu'r gwrandawiad ddilyn ein polisi Covid-19. Ni ddylai unrhyw un sy’n ystyried dod i wrandawiad wneud hynny os oes unrhyw risg bod ganddynt y coronafeirws, neu os ydynt yn teimlo’n sâl ac nad ydynt yn sicr pam.
Bydd materion gweithdrefnol sy'n edrych ar sut y bydd pob ymchwiliad yn rhedeg yn cael eu trafod yn y gwrandawiadau hyn. Bydd cyflwyniadau gan y Cwnsler i’r Ymchwiliad a’r Cyfranogwyr Craidd i helpu’r Ymchwiliad i baratoi ar gyfer y gwrandawiadau cyhoeddus, lle clywir tystiolaeth.
Byddwn yn cyhoeddi trawsgrifiad y gwrandawiad ar yr un dydd y mae'n dod i ben. Cyhoeddir recordiad o'r gwrandawiad ar wefan yr Ymchwiliad ar ddyddiad diweddarach. Mae fformatau amgen, gan gynnwys cyfieithiad Cymraeg ar gael ar gais.